![]() |
||||
|
||||
|
||||
Special Constable (Volunteer Police Officer) Recruitment / Recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol (Swyddogion Heddlu Gwirfoddol) |
||||
Hello Resident Special Constable (Volunteer Police Officer) Recruitment As a Special Constable, you can play a crucial role in helping us to deliver the policing priorities for South Wales. Becoming a Special Constable is a rewarding and enjoyable experience in which volunteers are made to feel needed, valued and developed. Special Constables are warranted Officers who undertake valuable work and form a vital link between the regular force and their local communities. As a Special, you will protect and reassure the people of South Wales alongside regular officers. Special Constables also carry the same equipment, wear the same uniform, hold the same powers and attend the same calls as regular Police Officers. You will be expected to commit to a minimum of 16 hours service a month and during your first two years of service you must complete all elements of your training and become certified for independent patrol. South Wales Police is now advertising for Special Constable roles and the application process opens on 13th October and the advert will remain open until 3rd November 2025. If you are interested in applying, please click the following link:
South Wales Police recognises the importance and significance of having a diverse workforce to help enhance the capability and capacity of delivering a high-quality performance for our diverse communities. To meet the Force’s ambition to be the best at understanding and responding to our communities’ needs, our Positive Action Team is available to answer any queries and provide support to candidates from ethnic minority backgrounds. For further information on the role, please contact HR-RECRUITMENT@south-wales.police.uk or if you wish to discuss Positive Action, please email PositiveAction@south-wales.police.uk.
Shwmae Resident Recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol (Swyddogion Heddlu Gwirfoddol) Fel Cwnstabl Gwirfoddol, gallwch chwarae rôl hanfodol wrth ein helpu i gyflawni'r blaenoriaethau plismona ar gyfer De Cymru. Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn brofiad gwerthfawr a phleserus, lle mae gwirfoddolwyr yn teimlo bod eu hangen a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u datblygu. Swyddogion â gwarant yw Cwnstabliaid Gwirfoddol sy'n ymgymryd â gwaith gwerthfawr ac yn creu cysylltiad hanfodol rhwng yr heddlu arferol a'u cymunedau lleol. Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn amddiffyn pobl De Cymru ac yn rhoi sicrwydd iddynt ochr yn ochr â swyddogion arferol. Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol hefyd yn cario'r un cyfarpar, yn gwisgo'r un lifrai, yn meddu ar yr un pwerau, ac yn ymateb i'r un galwadau â Swyddogion arferol yr Heddlu. Bydd disgwyl i chi ymrwymo i isafswm o 16 awr o wasanaeth y mis ac yn ystod eich dwy flynedd gyntaf o wasanaeth, bydd yn rhaid i chi gwblhau pob elfen o'ch hyfforddiant a chyflawni statws patrolio annibynnol. Mae Heddlu De Cymru yn hysbysebu ar gyfer rolau Cwnstabl Gwirfoddol. Bydd yr broses gwneud cais yn agor ar 13 o Hydref 2025 a bydd yr hysbyseb yn aros ar agor tan 3 o Tachwedd 2025. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol:
Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflawni perfformiad o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau amrywiol. I gyflawni uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â HR-RECRUITMENT@south-wales.police.uk neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, e-bostiwch PositiveAction@south-wales.police.uk. | ||||
Reply to this message | ||||
|
|