|
||||
|
||||
|
||||
E-bikes / ScootersHello Resident
We are aware of concerns around the use of e-bikes and scooters in the Llanrumney area. We share concerns that someone could be hurt by these bikes, which are being ridden at high-speed, and also the noise which is damaging quality of life for residents. ______________________________________________________________________________________________________________________________________________ E-feiciau / sgwteriShwmae Resident
Rydym yn ymwybodol o bryderon ynghylch y defnydd o e-feiciau a sgwteri yn ardal Llanrhymni. Rydym yn rhannu pryderon y gallai rhywun gael ei frifo gan y beiciau hyn, sy'n cael eu reidio ar gyflymder uchel, a hefyd y sŵn sy'n niweidio ansawdd bywyd trigolion.
Mae gweithrediadau i fynd i'r afael â'r defnydd anghyfreithlon o'r beiciau hyn wedi'u cynnal, gyda thri wedi'u hatafaelu'n ddiweddar yn ardal Countisbury Avenue. Bydd y gweithrediadau hyn sy'n cynnwys patrolau amlwg a dillad plaen yn parhau.
Gyda'r Nadolig yn prysur agosáu a'r cynnydd ym mhoblogrwydd y sgwteri a'r beiciau hyn, mae pryderon diogelwch cynyddol. Byddwch yn ymwybodol o'r gyfraith ynghylch e-sgwteri cyn prynu fel anrheg Nadolig. Mae yn erbyn y gyfraith i ddefnyddio e-sgwteri mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys ffyrdd, palmentydd, a pharciau. Dim ond ar dir preifat y gellir reidio e-sgwteri, gyda chaniatâd y tirfeddiannwr.
Gofynnir cwestiynau i ni yn rheolaidd am e-sgwteri fel "Alla i reidio e-sgwter ar ffordd gyhoeddus?" a "Fe'i prynais gan adwerthwr ag enw da, felly beth sy'n bod?" Ewch i'n gwefan lle mae ein cwestiynau mwyaf cyffredin wedi'u hateb: E-sgwteri ac e-feiciau: ateb eich cwestiynau | Heddlu De Cymru | ||||
Attachments | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|