|
||||
|
||||
|
||||
Recruitment
Hello Resident
Would you like a career like no other? If so… JoinUs South Wales Police brings together thousands of people with the same aim – to keep South Wales safe. We want to be the best at understanding and responding to our community’s needs. To do this we need the very best candidates from a wide range of backgrounds to become part of our policing family. A career in policing demands skill, compassion, leadership, initiative, and a genuine desire to make a difference to society. We work 24 hours a day, seven days a week, across an area of about 800 square miles from Swansea to Merthyr Tydfil to our capital city, Cardiff. It’s a job but where no two days are the same – and it offers a variety of fulfilling and exciting career. The role can be challenging, and you will need to be resilient and resourceful, but we are here to support you. You will need to be committed to a journey that requires balancing academic requirements and a new role within a 24/7 policing service. It is a job like no other and we are looking for people with diverse skills and experiences to join our successful team. There are now more options than ever to become a Police Officer in #TeamSWP: Which route will you choose? Police Constable Degree Apprenticeship (PCDA) This is a 3-year professional degree apprenticeship. Upon successful completion, you will achieve a Degree in Professional Policing Practice this route means that you have the opportunity to earn while you learn and achieve a degree. To apply for the PCDA, you must have achieved a Level 3 qualification (which is 2 A levels or equivalent). If you do not already possess a level 3 qualification, you will have an opportunity to undertake an online assessment in English and Maths, and if successful, you will progress to the next stage of the application process. If successful in all stages of your application, you will commence to our PCDA route. As an Apprentice, you will need to have already achieved a GCSE Grade A-C in Maths and English, or a Level 2 Equivalent. If you do not possess these qualifications, you will need to complete the Essential Skills qualification during your training to fulfil the requirement of the Apprenticeship Scheme. South Wales Police will meet all course fees relating to this entry route. Degree Holder Entry Programme (DHEP): The Degree Holder Entry Programme is for those who already hold a degree in any subject area but want to join the force. This is a two-year programme combining on-the-job practical learning and operational competence with academic learning. Upon completion, successful candidates will also achieve a Diploma in Professional Policing Practice. The force covers all course fees relating to this entry route. You will be required to work 24/7 shifts, including Bank Holidays and Weekends. For further information on the role and to apply, please follow the link below: If you wish to register your interest for future roles/vacancies in South Wales Police, please register on to our database of interest and we will send you further information when applicable.
If you have any questions, please do not hesitate to contact us on PositiveAction@south-wales.police.uk
Recriwtio
Shwmae Resident
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel. Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona. Mae gyrfa mewn plismona yn gofyn am fedrusrwydd, tosturi, arweinyddiaeth, blaengaredd a gwir ddymuniad i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Rydym yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ledled ardal o tua 880 milltir sgwâr o Abertawe i Ferthyr Tudful i'n prifddinas, Caerdydd. Mae'n swydd lle mae pob diwrnod yn wahanol – ac mae'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa gwerth chweil a chyffrous. Gall y rôl fod yn un heriol, a bydd angen i chi fod yn wydn a dyfeisgar, ond rydym yma i'ch cefnogi. Bydd angen i chi fod yn ymrwymedig i daith sy'n gofyn am gydbwyso gofynion academaidd a rôl newydd mewn gwasanaeth plismona 24/7. Mae'n swydd heb ei thebyg ac rydym yn chwilio am bobl â sgiliau a phrofiadau amrywiol i ymuno â'n tîm llwyddiannus. Mae bellach mwy o opsiynau nag erioed i fod yn Swyddog yr Heddlu yn #TîmHDC: Pa lwybr y byddwch yn ei ddewis? Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu PCDA) Prentisiaeth gradd broffesiynol tair blynedd yw hon. Ar ôl ei chwblhau, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill Gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Mae'r llwybr hwn yn golygu y cewch gyfle i ennill cyflog wrth ddysgu ac ennill gradd ar yr un pryd. Er mwyn gwneud cais ar gyfer y PCDA, mae'n rhaid eich bod wedi ennill cymhwyster Lefel 3 (sef dau gymhwyster Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol). Os nad oes gennych gymhwyster Lefel 3 yn barod, cewch gyfle i wneud asesiad ar-lein yn Saesneg a Mathemateg, ac os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn symud i'r cam nesaf o'r broses gwneud cais. Os ydych yn llwyddo ym mhob cam o'ch cais, byddwch yn dechrau ar ein llwybr tuag at PCDA. Fel Prentis, bydd angen i chi feddu ar TGAU Gradd A-C mewn Mathemateg a Saesneg, neu gymhwyster Lefel 2 cyfatebol. Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, bydd angen i chi gwblhau'r cymhwyster Sgiliau Hanfodol yn ystod eich hyfforddiant i fodloni gofyniad y Cynllun Prentisiaeth. Bydd Heddlu De Cymru yn talu'r holl ffioedd cwrs sy'n gysylltiedig â'r llwybr mynediad hwn. Rhaglen Mynediad i Raddedigion (DHEP): Mae'r Rhaglen Mynediad i Raddedigion ar gyfer y rhai hynny sydd eisoes â gradd mewn unrhyw faes pwnc ond sydd am ymuno â'r heddlu. Mae'r rhaglen yn para am ddwy flynedd, gan gyfuno cyfleoedd dysgu ymarferol a chymhwysedd gweithredol â dysgu academaidd. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn ennill Diploma mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Bydd yr heddlu'n talu'r holl ffioedd cwrs sy'n gysylltiedig â'r llwybr mynediad hwn. Bydd yn ofynnol i chi weithio shifftiau 24/7, gan gynnwys ar Wyliau'r Banc ac ar Benwythnosau. Am ragor o wybodaeth am y rôl a sut i wneud cais, dilynwch y ddolen isod:
Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer rolau/swyddi yn y dyfodol gyda Heddlu De Cymru, cofrestrwch ar ein cronfa ddata diddordeb a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch pan fydd hynny'n briodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar PositiveAction@south-wales.police.uk | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|