{SITE-NAME} Logo
The Police
Message Type Icon

Police Constable and Detective Familiarisation Session & Cwnstabl yr Heddlu a Sesiwn Cyflwyno Ditectif


Police Constable and Detective Familiarisation Session

Hello Resident

 

Would you like a career like no other? If so… JoinUs 

 South Wales Police brings together thousands of people with the same aim – to keep South Wales safe. 

We want to be the best at understanding and responding to our community’s needs. To do this we need the very best candidates from a wide range of backgrounds to become part of our policing family.

 A career in policing demands skill, compassion, leadership, initiative, and a genuine desire to make a difference to society. We work 24 hours a day, seven days a week, across an area of about 800 square miles from Swansea to Merthyr Tydfil to our capital city, Cardiff. It’s a job but where no two days are the same – and it offers a variety of fulfilling and exciting career.

 The role can be challenging, and you will need to be resilient and resourceful, but we are here to support you. You will need to be committed to a journey that requires balancing academic requirements and a new role within a 24/7 policing service. It is a job like no other and we are looking for people with diverse skills and experiences to join our successful team.

You will be required to work 24/7 shifts, including Bank Holidays and Weekends. 

South Wales Police recognises the importance and significance of having a diverse workforce to help enhance the capability and capacity of delivering a high-quality performance for our diverse communities.  To meet the Force’s ambition to be the to be the best at understanding and responding to our communities’ needs, our Positive Action Team is available to answer any queries and provide support to candidate from minority ethnic communities.

For any individuals who identify as Black, Asian and Minority Ethnic, or Any other White Background, a familiarisation event will be hosted on the evening of 27th and 28th August (in Cardiff and Swansea).  If you are interested in attending, please sign up using the below links:

Cardiff Bay Police Station –27th August 17:30-19:30pm: 

https://www.eventbrite.co.uk/e/police-constable-familiarisation-event-27th-august-cardiff-tickets-965061062617 

Swansea Central Police Station – 28th August 17:30-19:30pm:

https://www.eventbrite.co.uk/e/police-constable-familiarisation-event-28th-august-swansea-tickets-965126999837 

For further information on the role, or if you wish to discuss Positive Action, please email PositiveAction@south-wales.police.uk 

 

Cwnstabl yr Heddlu a Sesiwn Cyflwyno Ditectif

Shwmae Resident

 

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni 

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel. 

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae gyrfa mewn plismona yn gofyn am fedrusrwydd, tosturi, arweinyddiaeth, blaengaredd a gwir ddymuniad i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Rydym yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ledled ardal o tua 880 milltir sgwâr o Abertawe i Ferthyr Tudful i'n prifddinas, Caerdydd. Mae'n swydd lle mae pob diwrnod yn wahanol – ac mae'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa gwerth chweil a chyffrous.

 Gall y rôl fod yn un heriol, a bydd angen i chi fod yn wydn a dyfeisgar, ond rydym yma i'ch cefnogi. Bydd angen i chi fod yn ymrwymedig i daith sy'n gofyn am gydbwyso gofynion academaidd a rôl newydd mewn gwasanaeth plismona 24/7. Mae'n swydd heb ei thebyg ac rydym yn chwilio am bobl â sgiliau a phrofiadau amrywiol i ymuno â'n tîm llwyddiannus.

Bydd yn ofynnol i chi weithio shifftiau 24/7, gan gynnwys ar Wyliau'r Banc ac ar Benwythnosau. 

Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflwyno perfformiad o ansawdd uchel i'n cymunedau amrywiol.  I gyrraedd uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeisydd o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Ar gyfer unrhyw unigolion sy'n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, neu Unrhyw Gefndir Gwyn arall, bydd digwyddiad ymgyfarwyddo yn cael ei gynnal ar 27 a 28 Awst gyda'r nos (yng Nghaerdydd ac Abertawe).  Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bresennol, cofrestrwch drwy ddefnyddio'r dolenni isod:

Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd – 27 Awst 17:30-19:30: 

https://www.eventbrite.co.uk/e/police-constable-familiarisation-event-27th-august-cardiff-tickets-965061062617 

Gorsaf Heddlu Canol Abertawe – 28 Awst 17:30-19:3pm:

https://www.eventbrite.co.uk/e/police-constable-familiarisation-event-28th-august-swansea-tickets-965126999837 

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, anfonwch e-bost at PositiveAction@south-wales.police.uk


Reply to this message

Message Sent By
Sarah Lewis
(South Wales Police, Administrator, South Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials