{SITE-NAME} Logo
The Police
Message Type Icon

Special Constable Recruitment / Recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol


Special Constable Recruitment 

Hello Resident

South Wales Police will shortly be advertising for Special Constable roles. Will be opening the application process from 12th September 2024, and the advert will remain open until 10 October 2024.

As a Special Constable, you can play a crucial role in helping us to deliver the policing priorities for South Wales. Becoming a Special Constable is a rewarding and enjoyable experience in which volunteers are made to feel needed, valued and developed.

Special Constables are warranted Officers who undertake valuable work and form a vital link between the regular force and their local communities. As a Special, you will protect and reassure the people of South Wales alongside regular officers. Special Constables have the same powers as a regular Police Constable, carry the same equipment, wear the same uniform, hold the same powers and attend the same calls. You will be expected to commit to a minimum of 16 hours service a month and your appointment will be subject to a 2-year probationary period during which time you must complete all elements of your training and be certified as independent patrol.

If you are interested in applying, please click the following link:

https://policejobswales.tal.net/vx/appcentre-SouthWales/brand-0/spa-1/candidate/so/pm/6/pl/15/opp/7077-South-Wales-Police-Special-Constable-Volunteer-Police-Officer-Campaign-September-2024/en-GB?adhoc_referrer=jobboard_PA_SWPlistens

 

South Wales Police recognises the importance and significance of having a diverse workforce to help enhance the capability and capacity of delivering a high-quality performance for our diverse communities.  To meet the Force’s ambition to be the to be the best at understanding and responding to our communities’ needs, our Positive Action Team is available to answer any queries and provide support to candidate from minority ethnic communities.

For any individuals who identify as Black, Asian and Minority Ethnic, or Any other White Background, a familiarisation event will be hosted on the evening of 3rd and 4th September (in Cardiff and Swansea).  If you are interested in attending, please sign up using the below links:

Cardiff Bay Police Station – 3rd September 17:30-19:30pm: 

https://www.eventbrite.co.uk/e/976109077527?aff=oddtdtcreator 

Swansea Central Police Station – 4th September 17:30-19:30pm:

https://www.eventbrite.co.uk/e/976107332307?aff=oddtdtcreator

For further information on the role, or if you wish to discuss Positive Action, please email PositiveAction@south-wales.police.uk

 

Recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol

Shwmae Resident

 

Bydd Heddlu De Cymru yn hysbysebu rolau Cwnstabliaid Gwirfoddol yn fuan.  Byddwn yn agor y broses ymgeisio o 12 Medi 2024, a bydd yr hysbyseb yn parhau ar agor tan 10 Hydref 2024.

Fel Cwnstabl Gwirfoddol, gallwch chwarae rôl hanfodol yn ein helpu i gyflawni'r blaenoriaethau plismona ar gyfer De Cymru. Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn brofiad gwerthfawr a phleserus, a byddant yn cael eu gwerthfawrogi, a'u datblygu, ac yn teimlo bod eu hangen.

Swyddogion â gwarant yw Cwnstabliaid Gwirfoddol sy'n ymgymryd â gwaith gwerthfawr ac yn creu cysylltiad hanfodol rhwng yr heddlu arferol a'u cymunedau lleol. Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn amddiffyn pobl De Cymru ac yn rhoi sicrwydd iddynt ochr yn ochr â swyddogion rheolaidd. Mae gan Gwnstabliaid Gwirfoddol yr un pwerau â heddwas arferol, yn cario'r un cyfarpar, yn gwisgo'r un lifrai ac yn ymateb i'r un galwadau. Bydd disgwyl i chi ymrwymo i isafswm o 16 awr o wasanaeth y mis, a bydd disgwyl i chi gwblhau cyfnod prawf o ddwy flynedd os cewch eich penodi, lle byddwch yn cwblhau pob elfen o'ch hyfforddiant ac yn cael eich ardystio fel swyddog patrolio annibynnol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cliciwch y ddolen ganlynol:

https://policejobswales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-5/brand-3/xf-30105137e920/spa-1/candidate/so/pm/6/pl/15/opp/7077-South-Wales-Police-Special-Constable-Volunteer-Police-Officer-Campaign-September-2024/en-GB

 

Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflwyno perfformiad o ansawdd uchel i'n cymunedau amrywiol.  I gyrraedd uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeisydd o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Ar gyfer unrhyw unigolion sy'n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, neu Unrhyw Gefndir Gwyn arall, bydd digwyddiad ymgyfarwyddo yn cael ei gynnal ar 3 a 4 Medi gyda'r nos (yng Nghaerdydd ac Abertawe). Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bresennol, cofrestrwch drwy ddefnyddio'r dolenni isod:

Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd – 3 Medi 17:30-19:30: 

https://www.eventbrite.co.uk/e/976109077527?aff=oddtdtcreator 

Gorsaf Heddlu Canol Abertawe – 4 Medi 17:30-19:3pm:

https://www.eventbrite.co.uk/e/976107332307?aff=oddtdtcreator

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, anfonwch e-bost at PositiveAction@south-wales.police.uk


Reply to this message

Message Sent By
Sarah Lewis
(South Wales Police, Administrator, South Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials