{SITE-NAME} Logo
The Police
Message Type Icon

Open water safety / Diogelwch Dŵr Agored


Open water safety

BILINGUAL MESSAGE/NEGES DWYIEITHOG 

Hello Resident

Every year, and during the warmer summer months, South Wales Police receive reports of people jumping into rivers, canals, lakes, reservoirs, and quarries, and getting into difficulty.

 

Here in (Taff NPT), (local rivers) has been a particular problem location. These are some of the dangers that you need to be aware of:

 

The Dangers

  •  Injury if jumping or diving into water which is shallower than it appears.
  • Deeper water than expected, which can increase the risk of drowning if you get into difficulty.
  • Cold temperatures, particularly in deeper water, which can make swimming difficult and make it harder to get out.
  • Open water can be very cold even on a hot summer's day, leading to cramp and breathing difficulties.
  • Riverbanks can be unstable and liable to collapse if you get too close to the edge.
  • If you are in the water the loose and slippery sides of quarries and banks can make it difficult to climb out.
  • There may be hidden obstacles or objects under the surface which could trap a person or cause injury.
  • Strong currents can rapidly sweep people away. They may be present even when the surface looks calm.
  • It is often difficult for the emergency services to access open water sites such as quarries and riverbanks off the beaten track.
  • Top Tips to Stay Safe

    It is clear from all the above that everyone needs to take extra care when in or near open water and to adhere to the following safety advice:

  • Take notice of warning and guidance signs - water conditions are constantly changing!
  • Swim parallel with the shore, rather than away from it, and avoid drifting in currents.
  • Get out of the water as soon as you start to feel cold.
  • Alcohol and swimming should never be mixed.
  • If walking or running keep away from the water's edge and always supervise youngsters.
  • Don't use airbeds at open locations where they may be carried into deeper water and may not stay afloat.
  • Don't swim near weirs, locks, pipes, and sluices.
  • Only enter water where there is adequate supervision and rescue cover.
  • Wear recommended safety equipment - for example life jackets/helmets for canoeing.
  • Don't jump/dive into open water unless you are sure of the depth and that there are no submerged hazards.
  • Getting trained in first aid, rescue and resuscitation techniques could save a life.
  • Ensure children know how to swim and that they do not enter the water alone.
  •  For more advice on open water safety visit Water Safety - South Wales Fire and Rescue Service (southwales-fire.gov.uk)

    Do you need to speak to the police but don’t require an emergency response?

    You can make an online report via our website https://www.south-wales.police.uk, send us a private message via Live Chat, or call 101. In an emergency always dial 999.

     

    Diogelwch Dŵr Agored

    Shwmae Resident

     

    Bob blwyddyn, ac yn enwedig yn ystod misoedd cynnes yr haf, mae Heddlu De Cymru yn cael adroddiadau am bobl yn neidio i mewn i afonydd, camlesi, llynnoedd, argaeau a chwareli, ac yn mynd i drybini.

     

    Yma yn (Taff NPT) mae (Local rivers) wedi peri problemau penodol. Dyma rai o'r peryglon y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt:

     

    Y Peryglon

  • Anaf os byddwch yn neidio neu'n plymio i mewn i ddŵr sy'n fwy bas nag y mae'n edrych.
  • Dŵr sy'n ddyfnach na'r disgwyl, a all gynyddu'r risg o foddi os byddwch yn mynd i drybini.
  • Tymereddau oer, yn enwedig mewn dŵr dwfn, a all olygu ei bod yn anodd nofio a dod allan o'r dŵr.
  • Gall dŵr agored fod yn oer iawn hyd yn oed ar ddiwrnod poeth o haf, gan achosi cramp ac anawsterau anadlu.
  • Gall glannau afonydd fod yn ansefydlog a gallent ddymchwel os byddwch yn mynd yn rhy agos i'r ymyl.
  • Os byddwch yn y dŵr, gall ochrau llithrig a rhydd chwareli a glannau ei gwneud yn anodd i chi ddringo allan.
  • Gall fod rhwystrau neu wrthrychau cudd o dan yr arwyneb a allai ddal person neu achosi anaf.
  • Gall llifoedd cryf gario pobl i ffwrdd yn gyflym. Gallent fod yn bresennol hyd yn oed pan fo'r arwyneb yn edrych yn llyfn ac yn dawel.
  • Mae'n aml yn anodd i'r gwasanaethau brys gyrraedd safleoedd dŵr agored fel chwareli a glannau afonydd mewn mannau diarffordd.
  • Awgrymiadau Defnyddiol i Gadw'n Ddiogel

     

    Mae'n amlwg o'r uchod bod angen i bawb gymryd gofal ychwanegol pan fyddant mewn dŵr agored neu ger dŵr agored a dilyn y cyngor diogelwch canlynol:

  • Cymerwch sylw o arwyddion rhybudd a chyngor - mae amodau dŵr yn newid drwy'r amser.
  • Nofiwch yn gyfochrog â'r lan yn hytrach nag oddi wrth y lan, a cheisiwch osgoi nofio gyda'r llif.
  • Dewch allan o'r dŵr cyn gynted ag y byddwch yn dechrau teimlo'n oer.
  • Ni ddylech byth yfed alcohol a nofio.
  • Os byddwch yn cerdded neu'n rhedeg, cadwch i ffwrdd o ymyl y dŵr a chadwch lygad ar blant a phobl ifanc bob amser.
  • Peidiwch â defnyddio gwelyau aer mewn lleoliadau agored lle gallent gael eu cludo i ddŵr dyfnach a dechrau suddo.
  • Peidiwch â nofio ger coredau, lociau, pibellau a llifddorau.
  • Peidiwch â mynd i mewn i unrhyw ddŵr heb oruchwyliaeth a darpariaeth achub ddigonol.
  • Gwisgwch y cyfarpar diogelwch a argymhellir - er enghraifft, siacedi achub/helmedau ar gyfer canŵio.
  • Peidiwch â neidio/plymio i mewn i ddŵr agored oni bai eich bod yn gwybod pa mor ddwfn ydyw ac nad oes unrhyw beryglon tanddwr.
  • Gallai cael hyfforddiant cymorth cyntaf a thechnegau achub a dadebru achub bywyd unigolyn.
  • Gwnewch yn siŵr bod plant yn gwybod sut i nofio ac nad ydynt yn mynd i mewn i'r dŵr ar eu pen eu hunain.
  •  Am ragor o gyngor ar ddiogelwch gerllaw dŵr agored, ewch i Diogelwch Dŵr - Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (decymru-tan.gov.uk)

    Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond nid oes angen ymateb brys arnoch?

    Gallwch roi gwybod am fater ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk, anfonwch neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.

     

     


    Reply to this message

    Message Sent By
    Taff Neighbourhood Policing Team

    Neighbourhood Alert Cyber Essentials